Fydd cymal o’r ‘World Triathlon Para Series’ yn cael i gynnal ar ben eu hun am y tro cyntaf, yma yn Abertawe ar 6ed o fis Awst 2022. Brif ddigwyddiad wythnos o chwaraeon anabledd fydd y ‘Volvo 2022 World Triathlon Para Series’, wrth i ddinas Abertawe cynnal cystadlaethau a gweithgareddau ar draws y ddinas.
Fydd athletwyr elitaidd yn ymuno efo athletwyr y dyfodol, wrth i ddigwyddiad Cyfres Brydeinig a Aquathlon GoTri gael i redeg lawr yn Noc Tywysog Cymru yn SA1.
Partneriaeth rhwng Triathlon Prydain, Volvo UK, UK Sport, Triathlon Cymru, Llywodraeth Cymru a hefyd Dinas Abertawe sy’n gyfrifol am sicrhau llwyddiant y penwythnos a chreu mwy o gyfleoedd nofio, beicio a rhedeg ar draws y wlad