Events

Home Nation Membership

Are you covered?

Insurance is just one of many Home Nation Membership benefits, but means you can train and race with confidence all year round!

Cyfres Para Treiathlon y Byd 2022 Volvo Abertawe Cwestiynau cyffredin am y digwyddiad

Oes gennych chi unrhyw gwestiynau am Gyfres Para Treiathlon y Byd 2022 Volvo Abertawe a gynhelir ar 6 Awst? Cymerwch gip ar ein cwestiynau cyffredin isod!

Cyffredinol

Beth yw Cyfres Para Treiathlon y Byd 2022 Volvo Abertawe?

Cynhelir digwyddiad Cyfres Para Treiathlon y Byd annibynnol cyntaf erioed Prydain gan ddinas Abertawe ar 6 Awst 2022. Fel rhan o Gyfres Para Treiathlon y Byd 2022 Volvo Abertawe, bydd pencampwyr Paralympaidd, pencampwyr y byd a phencampwyr Ewropeaidd yn dod i Abertawe am y tair blynedd nesaf, gan gynrychioli uchafbwynt y cystadlaethau paratreiathlon. Bydd y goreuon yn ymuno ag athletwyr addawol yng Nghyfres 'Paratri Super' Treiathlon Prydain a chyfranogwyr Acwathlon Anabledd GO TRI, y cyfan yn Noc Tywysog Cymru a Glannau SA1.

Ble mae'r digwyddiad?

Bydd y digwyddiad yn dechrau ac yn gorffen yn ardal Glannau SA1, a bydd pentref y digwyddiad wedi'i leoli yno hefyd, drws nesaf i Ddoc Tywysog Cymru a Chei'r De.

Pryd mae'r digwyddiad?

Cynhelir Cyfres Para Treiathlon y Byd 2022 Volvo Abertawe ddydd Sadwrn 6 Awst 2022

Ble gallaf gofrestru i wirfoddoli?

Helpwch i drefnu digwyddiad Cyfres Para Treiathlon y Byd 2022 Volvo Abertawe drwy gofrestru i fod yn wirfoddolwr ar gyfer digwyddiad 2022. Cliciwch yma i gofrestru i wirfoddoli yn Abertawe eleni

Sut gallaf gymryd rhan?

Gallwch gymryd rhan drwy helpu gyda'r digwyddiadau yn y bore, gwirfoddoli, gwylio'r chwaraeon neu hyd yn oed drwy ddarparu adloniant.

Gallwch gofrestru nawr ar gyfer digwyddiadau Cyfres 'Super Paratri' Treiathlon Prydain ac Acwathlon Anabledd GO TRI  yn nigwyddiad Para Treiathlon y Byd 2022 Volvo Abertawe.

  • Cyfres 'Super Paratri' Treiathlon Prydain - gall unrhyw un â nam corfforol neu feddyliol neu sy'n niwrowahanol gymryd rhan. Mae'r ras yn agored i'r rheini yr ystyrir eu bod yn athletwyr paratreiathlon dosbarthedig a'r rheini nad ydynt yn cael eu hystyried yn athletwyr paratreiathlon dosbarthedig - bydd y rheini nad ydynt yn cael eu hystyried yn athletwyr paratreiathlon dosbarthedig yn cystadlu yn erbyn athletwyr eraill â nam tebyg. Gallwch gael rhagor o wybodaeth a manylion am sut i gofrestru yma
  • GO TRI- Gwahoddir unrhyw un â nam i nofio a rhedeg fel rhan o Acwathlon Anabledd GO TRI - er mai 100m yw uchafswm pellter y ras nofio, does dim angen i chi gwblhau'r pellter llawn. Yn yr un modd, mae gennym ras 500m, y gallwch ei nofio ddwywaith, neu lai os ydych am wneud hynny! Gallwch gael rhagor o wybodaeth a manylion am sut i gofrestru yma

Helpwch i drefnu digwyddiad Cyfres Para Treiathlon y Byd 2022 Volvo Abertawe drwy gofrestru i fod yn wirfoddolwr ar gyfer digwyddiad 2022. Cliciwch yma i gofrestru i wirfoddoli yn Abertawe eleni

Rydym yn cynnig ardaloedd mynediad cyffredinol am ddim o amgylch y glannau ar gyfer y rheini sydd am wylio'r digwyddiad yn ystod y bore a'r rasys elît, gyda'r pentref digwyddiadau yn rhan o hyn. Gyda digon i'w wneud, llawer i'w archwilio a hyd yn oed mwy i'ch difyrru ni waeth beth yw'ch oed, mae'n gyrchfan perffaith i'r rheini sydd am wneud y gorau o'u diwrnod yn Abertawe wrth gefnogi'n hathletwyr.

Beth arall sy'n digwydd yr wythnos honno?

Cyfres Para Treiathlon y Byd 2022 Volvo Abertawe sy'n arwain Gŵyl Parachwaraeon Chwaraeon Anabledd Cymru a fydd yn cynnwys sesiynau rhagflas ar gyfer amrywiaeth o barachwaraeon rhwng 1 a 5 Awst. Bydd hefyd ras IRONMAN 70.3 yn cael ei chynnal ddydd Sul 7 Awst.

Gwybodaeth i wylwyr

A fydd unrhyw ffyrdd ar gau?

  • I gael rhagor o wybodaeth am yr ardaloedd yr effeithir arnynt gan y trefniadau cau ffyrdd, cliciwch yma.

Oes angen tocyn ar gyfer pentref y digwyddiad?

Nac oes, ar hyn o bryd rydym yn bwriadu cynnig ardaloedd mynediad cyffredinol am ddim o amgylch y glannau ar gyfer y rheini sydd am wylio'r digwyddiad yn ystod y bore a'r rasys elît, gyda'r pentref digwyddiadau yn rhan o hyn

Gyda digon i'w wneud, llawer i'w archwilio a hyd yn oed mwy i'ch difyrru ni waeth beth yw'ch oed, mae'n gyrchfan perffaith i'r rheini sydd am wneud y gorau o'u diwrnod yn Abertawe. Dros y penwythnos gallwch ddod o hyd i'r canlynol:

  • Bwyd a Diod
  • Sgrîn fawr a fydd yn arddangos yr holl gyffro
  • Adloniant ar gyfer y teulu cyfan

Hoffwn wylio'r digwyddiad, ydy'r safle'n hygyrch ar gyfer y rheini ag anabledd?

Mae'r digwyddiad yn hygyrch i bawb. Bydd man gwylio dynodedig ger y llinell derfyn ar sail y cyntaf i'r felin.

Faint o'r gloch bydd rasys Cyfres Para Treiathlon y Byd 2022 Volvo yn dechrau?

Bydd rasys elît ddydd Sadwrn 6 Awst yn dechrau ar yr amserau canlynol:

  • 13:00 categorïau PTVI
  • 14:20 categorïau PTWC
  • 15:45 categorïau PTS2-5

Bydd hefyd ras Cyfres 'Super Paratri' Treiathlon Prydain yn dechrau am 08:30 ac Acwathlon Anabledd GO TRI yn dechrau am 10:30.

Cliciwch yma i weld amserlen lawn y digwyddiad.

Ble mae’r lle gorau i weld yr holl gyffro?

Mae llinell gychwyn, y llinell derfyn a phentref y digwyddiad yn ardal Glannau SA1. Gallwch hefyd weld y llwybr beicio a cherdded drwy ganol y ddinas

  • Llwybr beicio - mae Parc yr Amgueddfa yn lle da i wylio rhannau o'r llwybr beicio
  • Llwybr rhedeg - mae cylchfan Kings Road yn lle da i wylio rhannau o'r llwybr rhedeg
  • Bydd map o'r lleoliad ar gael cyn bo hir [SA1] 

Cliciwch yma i weld mapiau llwybr

 

A fydd bwyd a diod ar gael?

Bydd, bydd amrywiaeth o fwyd ar gael ym mhentref y digwyddiad wrth ochr y doc ger y llinell derfyn. Bydd yr amrywiaeth o fwyd sydd ar gael yn cynnwys bwyd oer a phoeth a hufen iâ. Bydd te, coffi, diodydd meddal ac alcohol ar gael i'w prynu.

Beth os aiff fy mhlentyn ar goll?

Gall plant coll a'u rhieni fynd i'r pwynt gwybodaeth sydd wedi'i leoli ger llinell ddechrau'r ras nofio neu gallant fynd at unrhyw stiward/swyddog heddlu.Bydd stiwardiaid ar hyd y safle hefyd i'ch helpu.

Ble galla'i gael gwybodaeth pan fyddaf yma?

Bydd man gwybodaeth ger llinell ddechrau'r ras nofio wrth ochr y doc yng Nglannau SA1

Teithio a Pharcio

Rwy'n gyrru i'r digwyddiad, ble galla'i barcio fy nghar?

Does dim meysydd parcio penodol ar gyfer gwylwyr, defnyddiwch feysydd parcio canol y ddinas gan ddilyn y ddolen hon:  meysydd parcio canol y ddinas - Abertawe

Sylwer, oherwydd bod ffyrdd ar gau ar gyfer y digwyddiad, ni fydd rhai meysydd parcio yn hygyrch hyd nes y bydd y ffyrdd sydd ar gau wedi'u hailagor. Argymhellir bod gwylwyr sy'n teithio mewn car yn defnyddio maes parcio Parcio a Theithio Fabian Way (https://www.abertawe.gov.uk/forddfabian) y mae bysus yn teithio oddi yno bob 20 munud i safle bws Quay Parade (Sainsbury's). Mae lleoliad y digwyddiad 10 munud i ffwrdd ar droed, dros yr Hwylbont.

Oes parcio hygyrch ar gael?

Bydd manylion lleoedd parcio ar gyfer deiliaid bathodyn glas mewn maes parcio dynodedig yn cael eu cadarnhau cyn bo hir.

Ydy'n bosib i mi feicio i'r digwyddiad?

Ydy. Bydd man i gadw beiciau ger llinell ddechrau'r ras nofio a'r babell wybodaeth. Rydych yn gadael eich beiciau ar eich menter eich hun.

Gwybodaeth am gau ffyrdd lleol

Ble gallaf gael gwybodaeth am y ffyrdd sydd ar gau?

  • Gellir dod o hyd i'r holl wybodaeth am y ffyrdd lleol sydd ar gau yma.

Rwy'n byw yn yr Ardal Forol, ydw i'n gallu gadael yr ardal yn ystod y digwyddiad?

Rhaid i'r holl geir fod wedi'u parcio ym maes parcio Paxton Street erbyn 10am ddydd Sadwrn 6 Awst os ydynt am adael yr Ardal Forol yn ystod y digwyddiad. Bydd cerbydau yn gallu gadael maes parcio Paxton Street ar adegau penodol yn ystod y ras, gweler isod: 14:00 – 14:20 a 15:30 – 15:45.

Oes angen i mi dalu i barcio ym maes parcio Paxton Street?

Ni fydd yn rhaid i chi dalu i barcio ddydd Sadwrn 6 Awst.

Ydw i'n gallu cael mynediad i'r Ardal Forol yn ystod y digwyddiad?

Ni fyddwch yn gallu cael mynediad i'r Ardal Forol pan fydd y ffyrdd ar gau. Gofynnir i breswylwyr barcio'u ceir yn un o feysydd parcio canol y ddinas nes bod y ffyrdd yn ailagor.

Ble gallaf gael gwybodaeth am y ffyrdd sydd ar gau ddydd Sul 7 Awst?

Ewch i (www.croesobaeabertawe.com) neu (https://www.ironman.com/im703-swansea)

i gael rhagor o wybodaeth am y trefniadau cau ffyrdd ar gyfer y penwythnos

Pam ydych chi'n cau'r ffyrdd ar y dydd Gwener?

Gan fod digwyddiad Cyfres Para Treiathlon y Byd 2022 Volvo Abertawe yn cynnwys ras elît, mae'r trefniadau cau ffyrdd ar waith o ddydd Gwener 5 Awst i sicrhau bod ein hathletwyr elît yn gyfarwydd â llwybr y ras.

Rwy'n ofalwr, sut ydw i'n cyrraedd fy nghleifion ar hyd y llwybr?

E-bostiwch swansea@britishtriathlon.org i drafod mynediad.

Beth os oes argyfwng ac rwy'n ffonio 999, sut mae'r gwasanaethau brys yn cael mynediad?

Bydd mynediad i'r gwasanaethau brys ar bob adeg.

Os nad yw'ch cwestiwn wedi'i ateb uchod, e-bostiwch swansea@britishtriathlon.org

Thanks to our Partners

Join Us

And enjoy insurance benefits, race licensing and more...