TROSOLWG
Nod Mae Pawb yn Dechrau Rhywle yw annog pobl anabl i 'gymryd rhan' yng Nghyfres Para Triathlon y Byd Abertawe 2023 ym mha bynnag ffyrdd y maent fwyaf cyfforddus.
Y prif ffocws yw darparu ysbrydoliaeth ac amgylchedd diogel i unigolion gyflawni eu nodau eu hunain, beth bynnag fo'r nodau hynny.
SUT Y GALLWCH CHI 'GYMRYD RHAN'
Mae rhai ffyrdd o ‘gymryd rhan’ yn cynnwys:
Cyfres Uwch Paratri Prydain - nofio 400m, beicio 10km, rhedeg 2.5km ar gyfer cyfranogwyr dosbarthedig a di-ddosbarth sydd am gymryd rhan mewn triathlon llawn naill ai i'w gwblhau neu gystadlu ynddo. Sylwch, mae angen dangos tystiolaeth o feini prawf sylfaenol i gymryd rhan.
Sblash & Dash – ‘Nofio' sy'n canolbwyntio ar gyfranogiad (gallech drochi bysedd eich traed yn y dŵr yn unig) a 'rhedeg' (gwnewch eich ffordd 150m i'r llinell derfyn sut bynnag y dymunwch) gan alluogi unrhyw un i gymryd rhan yn y profiad.
MORE OPPORTUNITIES:
Gwirfoddoli - amrywiaeth o gyfleoedd i gefnogi cyflwyno'r diwrnod.
Gwylio - wedi’i gosod mewn lleoliad pwrpasol ar gyfer digwyddiadau wrth ymyl Doc Tywysog Cymru, mae agosrwydd y cynllun yn caniatáu gwylio’r adrannau nofio, beicio a rhedeg gyda sylwebaeth, ffrydiau camera byw a byrddau safleoedd i’ch helpu i ddilyn y rasys elitaidd.
I weld yr amserlen a mapiau llwybrau Uwch Gyfres Paratri Prydain a Sblash & Dash, ewch i Gwybodaeth am y Digwyddiad.
CLYWED GAN ERAILL
Rydym yn creu cyfres o fideos gyda chyfranogwyr paratriathlon yn siarad am eu cymhellion, eu paratoi a'u teimladau o'r adeg y bu iddynt gymryd rhan yn eu digwyddiad cyntaf i helpu i roi ysbrydoliaeth i eraill i ddechrau eu taith nofio, beicio, rhedeg.
RHAGOR O WYBODAETH
Rydym yn cynnal dwy weminar ar-lein i drafod y trosolwg o'r digwyddiad a'r gwahanol ffyrdd y gallwch gymryd rhan. Bydd y rhain hefyd yn rhoi cyfle i unrhyw un sydd â diddordeb ofyn unrhyw gwestiynau:
· Dydd Mawrth 13 Mehefin, 6pm
· Dydd Mercher 28 Mehefin, 6pm
Os hoffech fynychu'r naill weminar neu'r llall, anfonwch e-bost i Swansea@BritishTriathlon.org i gofrestru ar gyfer eich dyddiad dewisol.
Bydd canllaw i athletwyr ar gyfer yr Uwch Gyfres Paratri Prydain a'r Sblash & Dash yn cael ei ryddhau yn nes at y digwyddiad gyda'r holl wybodaeth y mae angen i chi ei wybod am gymryd rhan
LlETY
Gwyddom fod paratoi ar gyfer eich digwyddiad cyntaf yn golygu bod nifer o bethau i'w trefnu. Er mwyn ceisio helpu, rydym wedi sicrhau hyd at 100 o ystafelloedd ensuite deiliadaeth sengl ar gyfer cyfranogwyr a chefnogwyr Mae Pawb yn Dechrau Rhywle ar Gampws y Bae Prifysgol Abertawe gyda chyfraddau gwely a brecwast, brêc wast a chinio a brecwast, cinio a swper ar gael.
Os hoffech archebu lle, anfonwch e-bost i Swansea@BritishTriathlon.org Mae'r ystafelloedd hyn ar gael ar sail y cyntaf i'r felin.